MATTHEW HAWKINS applauds a psychotherapist’s disection of William Blake
Er cof am Gareth
by Hywel Griffiths
Ers duo’r Seren Fore
mae un llen drom yn ei lle;
llen rhyngom a’r ymgomiau,
eto yn mudo’r dramâu.
Erys llwyfan, a baner,
erys yr hwyl, erys her
i’n bythol anobeithio:
erys ei ewyllys o.
Ar y cwm mae geiriau’r co
yn aros, a disgleirio;
yn y dweud, onid ydyw,
y mae’r Seren Fore’n fyw.
Similar stories
by Lorraine Voss
by Steven Taylor
by Gordon Scapens

from LUCIE SCOTT